Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 15 Hydref 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 10:34 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies Sandy Mewies |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Stephen Martin, Swyddfa Archwilio Cymru Meilyr Rowlands, Estyn Gillian Body, Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol, Swyddfa Archwilio Cymru Paul Dimblebee, Cyfarwyddwr Grŵp - Archwilio Perfformiad, Swyddfa Archwilio Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru
2.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gyda Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, ‘Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon’. Roedd Stephen Martin o Swyddfa Archwilio Cymru a Meilyr Rowlands o Estyn yno gyda'r Archwilydd Cyffredinol. Yn ystod y sesiwn friffio, cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i ofyn cwestiynau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nodwyd y papurau.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon: Aelodau i drafod y materion a godwyd gan adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru
5.1 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i'r ‘Trefniadau Cyflenwi ar gyfer Absenoldeb Athrawon’.
6 Rheoli Grantiau yng Nghymru: Trafod y cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
6.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i adolygu'r sefyllfa ar ôl i adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar Reoli Grantiau, a ddisgwylir ym mis Rhagfyr 2013, gael ei gyhoeddi.
7 Argyfyngau Sifil yng Nghymru: Trafod y cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
7.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd y byddai'r Clerc yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i gael eglurhad o'r materion a godwyd yn ei gyngor.
8 Proses gaffael Llywodraeth Cymru a’r camau a gymerwyd ganddi i waredu hen Westy River Lodge, Llangollen: Trafod y cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru
8.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a bwriad Swyddfa Archwilio Cymru i fonitro'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn diweddaru ac yn egluro cynnydd gyda gweithredu argymhellion y Pwyllgor.